|
Bardsey News in Welsh - by kind permission of Llanw llŷn and Ann Owen Vaughan |
A series of articles about
the island and the people living and visiting has been written in Welsh in the local magazine Llanw Llŷn and
with Ann
Owen Vaughan's suggestion and help these are now being re-produced on our website.
|
Carol Shearman Pan oedd Carole yn 28oed, cafodd ei hyfforddi fel crochenydd mewn gweithdy ger Nanmor. Yna symudodd i Lan Ffestiniog a chael gweithdy yno, cyn cael cyfle drwy ei gwaith i hyfforddi fel athrawes. Bu'n gweithio yn ysgol Steiner, Tremadog o 1985 i 2000 pan fu'r i'r ysgol gau, ac yn dilyn hynny agorodd stiwdio yn Nhremadog mewn stablau lle roedd llawer o grefftwyr eraill yn gweithio. Dyma lle y cyfarfu â Christine Evans o Uwchynydd a oedd yn cynnal cwrs ysgrifennu yno. Yn 2002 aeth Carole i Ynys Enlli am y tro cyntaf ar gwrs ysgrifennu dan ofal Christine. Roedd chwech o ferched ar y cwrs a daethant yn ffrindiau da. Buont yn Fenis gyda' i gilydd a chael eu hysbrydoli i ysgrifennu gan ysblander y lle. Daeth cyfle yn 2004 i gael aros ar Ynys Enlli yn yr Wylfa Adar. Daeth Carole â bag o glai gyda hi a dechreuodd wneud crochenwaith unwaith eto. Yn 2005 gwirfoddolodd i helpu yn yr Wylfa am bythefnos ond fe arhosodd drwy'r haf, ac fe wnaeth fwynhau ei hun gymaint fel y trefnodd i gael aros yn stabl a llofft Nant o Ebrill tan Hydref 2006. Yno roedd yn cynnal dosbarthiadau paentio dyfrlliw, sef Lledrith Lliw, ac yn defnyddio clai ar gyfer moelu a gwneud Ocorina, sef adar a morloi sy'n chwibanu. gwnes un o'r rhain yn 2006 ac roedd yn brofiad gwerth chweil a finnau erioed wedi gweithio efo clai o'r blaen. Roedd hi'n gwneud potiau clai i ddal brwshis – brwshis wedi eu gwneud o bethau oedd wedi cael eu darganfod ar y traeth fel gwymon a broc môr – a wedyn yn eu defnddio gydag inc i greu llun. Yn ogystal mae'n gwneud gwaith ffelt a chefais wneud mat felt i ddal tebot y llynedd. Roeddwn yn meddwl y buasai'n syniad da defnyddio gwlân y defaid i wneud ffelt a chael arian da am werthu'r cynnyrch. On cyn i mi ddechrau oedd hynny! Roedd yn rhaid cribo'r cnu o un crib i'r llall a'u rhoi un ar ben y llall ac roedd angen llawer iawn ohono, yna rhoi ychydig o ddŵr poeth a sebon arno a'i rowlio mewn mat fel sosej yn ôl ac ymlaen. Cymerodd hyn drwy'r pnawn i wneud un mat! Felly anghofiais am y syniad. Mae Carole yn casglu plisgyn nionod i lifo'r gwlân ac mae hyn yn creu lliwiau melyn, aur a mwstad ar gyfer gwau. Mae hi bob amser yn llifo gyda phethau naturiol fel aeron ysgaw, mwyar duon, dail betys, dail poethion ac ati. Mae gwlân yr ynys, sef cnu gwyn a du yn cael ei lifo i nyddu a gwneir mat ohono wedyn trwy ddefnyddio gwŷdd (loom) pegiau. Gall chwech o bobl a phlant gymeryd rhan yn y gweithgareddau yma o amgylch y bwrdd ar y tro a doed dim tâl, dim ond i chi roi cyfraniad tuag at gost y clai ayyb. Yn ystod y gaeaf fe gewch weld Carole wrth ei gwaith yn stablau Tremadog. * Cofiwch fod Christine Evans wedi cyhoeddi llyfr arbennig iawn am Ynys Enlli yn ddiweddar, sef Bardsey (Gwasg Gomer). Mae'r lluniau gan Wolf Marloh. 6.99 Ann Vaughan |
Carol Shearman
|
|
Y mis yma rydym yn cael sgwrs efo Ben Porter sy’n 12 oed.Mae Ben yn codi am 6 o’r gloch bob bore ac yn cerdded at y rhan mwyaf deheuol yr ynys i wylio adar.Mae’n bwysig cofnodi yr holl wybodaeth yma yn ddyddiol ar gyfer yr Wylfa Maes ac Adar. Mae yna guddfan yn y rhan yma i wylio adar y môr yn enwedig y rhai mudol a phrin ac i gofnodi y dolffiniaid a’r llambedyddiol. O 9 y.b. tan 12.00 mae’r gwersi ysgol.Yna o 12 tan 1 o’r gloch mae’n mynd i Nant i edrych ar y trapiau gwyfynod. Bob diwrnod mae’n cofnodi pa rywogaeth ydynt a’u niferoedd. Mae hyn yn digwydd yng ngardd Cristin hefyd, felly mae yna amrywiaeth dda yn cael eu darganfod – rhai am y tro cyntaf i’r ynys.Cewch weld yr holl wybodaeth yn adroddiad blynyddol Gwylfa Maes ac Adar. Yn yr haf os bydd y tywydd yn braf a thawel mae’n mynd allan i’r Honllwyn neu Porth Solfach i weld beth sydd yn y cewyll – cimychiaid neu grancod.Mae’n defnyddio ei gwch hefyd i fynd i bysgota a dal mecryll neu bysgodyn gwyn. Mae digon o waith iddo yn enwedig yn ystod y tymor ymwelwyr yn helpu ei dad i lwytho a dadlwytho’r bagiau ar fore Sadwrn yn ôl ac ymlaen o’r tai at y cwch. Fel ei dad mae wrth ei fodd yn tynnu lluniau efo camera digidol Cannon SLR.Bu erthygl iddo yng nghylchgrawn byd natur yr RSPB “Wildlife Explorers” yn rhifyn Mai/Mehefin 2009. Dyma’r cyfieithiad “Fy enw yw Ben Porter ac rwy’n byw yn Tŷ Pellaf, Ynys Enlli.Mae hi’n ddistaw yma yn y gaeaf gydag ychydig o adar a dim pobl, arwahan i fi a’r teulu.O Mai ymlaen mae’n amser diddorol. Fel rydych chi yn croesawu yr adar mudol yn ôl fel y wenoliaid a’r gog, rwyf innau yn croesawu yr adar môr i’r Ynys.Rwyf yn hoffi gweld y gwylanod a’r llyrs yn llenwi’r creigiau ac yn y nos mae’n swnllyd iawn gyda’r adar drycin Manaw yn dod yn ôl yn eu miloedd.” Yn ystod y gaeaf mae’n ennill arian ychwanegol drwy helpu efo’r ffensio, clirio’r eithin a helpu efo’r wyna yn y gwanwyn.Yn y bore mae’n mynd â’r defaid a’r ŵyn i wahanol gaeau. Mae Ben wrth ei fodd yma ac fel y gwelwch mae ei ddiwrnod yn llawn iawn ond yn amrywiol.Mae wrth ei fodd yn cael ei ffrindiau drosodd i aros dros y flwyddyn newydd. Felly Nadolig Llawen i chi i gyd a Blwyddyn Newydd Dda. Ann Vaughan |
Ben Porter- Birdwatcher and Photographer
|
|
Gareth Roberts Felly’r gwahaniaeth mwyaf yw nad ydi hi’n hawdd cael anifeiliaid yn barod i’r farchnad dew yn syth oddi yno oherwydd y trafferthion o gael pethau i’r tir mawr ar yr amser iawn. A dyna lle mae gen i fantais aruthrol gan fy mod yn ffermio Cwrt, sef y fferm ar y tir mawr lle bydd y cychod yn glanio, a lle gellir gollwng yr anifeiliaid ar y traeth a’r rheini wedyn yn cerdded yn hapus i fyny i’r caeau. Petai’r ynys yn uned ar ei phen ei hun heddiw buasai’n llawer anos, gyda holl anawsterau siopio yn y gaeaf, trefnu gweithwyr i drin yr anifeiliaid yr ochr yma a rhai ar Enlli yr un pryd, ac wedyn eu corlannu yr ochr yma a chael lorїau i’r farchnad ac ati. Byddai hynny’n dipyn o her, ac mae’r drefn sy’n bodoli yn llawer haws. Dyna ddigon am yr anawsterau; beth am y drefn? Ar y funud mae 20 o fuchod duon Cymreig pedigri a’r tarw yn byw ar Enlli gydol y flwyddyn, gyda’r bwriad i gynyddu i 25 maes o law. Y nod yw i’r buchod loio ddechrau Ebrill fel bo’r tywydd yn gwella gan obeithio y gallwn groesi os bydd problemau, ond ar y cyfan mae problemau wedi bod yn brin iawn, yn enwedig efo’r tarw blaenorol. Aed â tharw newydd yno llynedd, felly gobeithio’r gorau am eleni. Mae dau beth yn hanfodol wrth ystyried tarw, sef ei fod yn lloio yn hawdd a’i fod yn hollol saff, gan fod cymaint o bobol yn crwydro’r ynys yn ystod yr haf. Tua diwedd Medi, ar ôl treulio’r haf yn pori yn y corsydd sy’n gyfoethog o flodau a phlanhigion sy’n dibynnu ar wartheg i’w pori yn hytrach na defaid, bydd y lloeau’n dod i Cwrt ac yn treulio’r gaeaf yno. Bydd y buchod wedyn yn mynd yn dew yn barod ar gyfer gaeaf allan, yn bwyta gwair neu silwair sy’n dod o’r caeau yng nghanol yr ynys. Yn ogystal, mae diadell o 330 o famogiaid Cymreig o deip Tregaron a thua 100 o sbinod yn byw yno hefyd, y rhain eto’n cael eu bridio’n bur. Mae’r ŵyna’n dechrau ganol Mawrth am chwech wythnos, a’r defaid yn pori’r rhan salaf o’r ynys y rhan fwyaf o’r amser. Bydd yr ðyn sy’n weddill a’r defaid hynaf yn dod oddi yno ac yn mynd i Cwrt tua diwedd Awst, yn ddibynnol ar y tywydd. Mae’r holl gaeau gwair ac ati ar Enlli’n cael eu cadw heb anifeiliaid o tua diwedd Tachwedd tan amser ŵyna er mwyn cael digon o fwyd yn barod ar gyfer y defaid bryd hynny. Mae hyn am nad yw’n hawdd iawn rhoi dwysfwyd iddynt, er y byddwn yn defnyddio blociau. Tydi ffermio Enlli ddim yn golygu defnyddio’r adnoddau ar gyfer creu cynnyrch, ond yn hytrach defnyddio’r ffermio fel arf i gadw’r cynefinoedd pwysig sydd yno mewn cyflwr derbyniol, gan fod yr ynys i gyd yn warchodfa natur o bwysigrwydd cenedlaethol. Bydd yr anifeiliaid yn cael eu didoli o gwmpas yr ynys yn unol â’r galw ar rannau penodol yn ogystal ag amser o’r flwyddyn, gyda thanbori mor niweidiol â gorbori mewn mannau. Felly mae’n wir dweud bod y dull o ffermio’n tueddu i fod dan chwyddwydr, oherwydd y galw cadwriaethol a hefyd y nifer cynyddol o ymwelwyr sy’n dod yno bob blwyddyn i ymlacio a mwynhau hanes yr ynys a’i hawyrgylch arbennig iawn. Mae digon o anawsterau ffermio Enlli, ond mae’r bendithion o gael mynd yno’n rheolaidd i oruchwylio’r gwaith yn llwyr orbwyso’r trafferth. Gareth Roberts |
Gareth Roberts reversing tractor and trailer
|
|
Dale Brown
and Mike Archer Maent wedi bod yn ffrindiau ers blynyddoedd oherwydd diddordeb y ddau ym myd natur a hanes.Roedd yn gwybod fod Mike wedi bod yn mynd i’r ynys fel gwirfoddolwr ers blynyddoedd a gofynnodd os y buasai yn hoffi mynd i’w helpu i fynd drwy’r data. Ei gwaith oedd helpu Mike i drosglwyddo’r data o’r papurau gwreiddiol o 1953 – 1973 i’r rhaglen IPMF fel bod pawb yn medru eu gweld.Ei gwaith oedd darllen y llun gopiau a gwneud yn siwr eu bod yr un fath ar y cyfrifiadur.Roedd yn cymeryd amser i fynd drwy 100 o dudalennau rhifau y modrwyau, eu hoed, rhyw rhywogaeth, mesuriadau,pwysau,a ble roeddynt wedi cael eu dal.Roedd yna dipyn o waith i fynd drwy 39 tudalen o ddrydwy a’r rheiny i gyd wedi cael eu dal yn y goleudy! Roedd yn rhaid canolbwyntio yn galed iawn gan fod y cei ddal yn Cape Town gyda rhai o’r adar a fodrwywyd y diwrnod cynt yn farw yng Nghwlad Belg, Almaen, Norwy,Sweden a Rwsia.”Y rhai tristaf oedd “wedi llwyr ymladd yn Wiltshire, yn marw yn Sussex.” Roeddech yn meddwl beth ddigwyddodd iddynt wedyn. Nid gwaith yn unig a fu yn ei wneud ond gwylio llawer o adar yn cael eu modrwyo, cael trafodaeth bywiog yn y Wylfa am y llinos frongoch.Ei hoff beth oedd gwylio Mike yn modrwyo 4 aderyn drycin Manaw ger y goleudy a chofnodi eu manylion i lawr.Mae hi wrth ei bodd gyda’r adar yma ar ôl treulio amser Yn y Wylfa ar ynys Sgogwm pan oedd yn 16 oed.Mae’r sŵn maent yn ei wneud yn fyddarol a hudol yn y nos. Mae yn deall pam fod pobl yn dod yma i aros dro ar ol tro ac i ddal i fyny efo’r bobl sydd wedi bod mor garedig gyda hi. Ann Vaughan |
|
|
Y mis yma cawn hanes Steve Porter. Mae Steve wedi ymgartreu yn Nhŷ Pellaf gyda’i deulu ers 2 flynedd bellach. Nid yw ffarmio yn ddiethr iddo gan ei fod wedi bod yn ffermio defaid ar 100 acer o dir mynydd yn Henryd. Roedd ei dad, Michael Porter yn reolwr Amaethwyr Dyffryn Clwyd Cyf yn Llanelwy. Mae wedi bod yn cadw gwenyn ers tua 8 mlynedd erbyn hyn a chael mêl a chŵyr gwenyn ganddynt sydd ar werth yn y siop. Cafodd ei gwch gwenyn cyntaf yn 1993 ac mae’n aelod o Wenynwyr Conwy. Bu yn gadeirydd o 2005 -7. Roedd yn cadw cychod gwenyn tu ôl i Cristin a byddai yn canwio drosodd i edrych ar eu holau bob hyn a hyn. Mae wrth ei fodd efo ynysoedd ac yn cofio yn dda cael ei ddal ar ynys Great Blasket yn yr Alban pan oedd ar ei fis mêl! Dywed ei fod wrth ei fodd efo’r heddwch a’r tawelwch. Astudiodd wyddoniaeth amaeth yn y brifysgol cyn symud yn ei flaen i fod yn hyfforddwr awyr agored, yn gyntaf yn yr Alban ac yna ym Mhensarn, Harlech. Treuliodd amser hefyd gydag oedolion efo anabledd dysgu yn Llanelwy. Yna bu’n dysgu gweithgareddau awyr agored am 7 mlynedd yng Ngholeg Dewi Sant, Llandudno. Does ryfedd iddo felly fod wrth ei fodd ar Ynys Enlli. Eleni bu yn brysur yn wyna ym mis Mawrth ac yna daeth y lloi. Oherwydd cymlethdodau gydag un fuwch ar fin geni llo roedd yn lwcus fod y milfeddyg yng Nghwrt, Uwchmynydd a hefyd fod y tywydd yn dawel i hwnnw gael croesi gydag Ernest Evans.. Yn y Gwanwyn hefyd mae ei waith yn cynnwys rheoli’r eithin oddi amgylch yr ynys, ail hadu y ceirch, hau acer o hadau ar gyfer yr adar gwyllt (gan fod gwaith arbennig yn cael ei gofnodi yn yr Wylfa yng Nghristin) Hau cêl, blodau’r haul a miled. Yn yr Haf mae pob dydd Sadwrn yn brysur pan fydd pobl yn mynd i aros am wythnos yn y tai. Rhaid cario eu bagiau a’u bwyd o’r Cafn ar dractor a threlar. Nid yw hyn yn bosib bob tro oherwydd y tywydd ac efallai y bydd hi’n ddydd Sul pan fo hyn yn digwydd. Pan gaiff amser mae’n hoffi mynd i bysgota i gael llonydd a denig oddi wrth bawb a phopeth. Mae’n torri ceirch ar gyfer silwair a thorri’r rhedyn. Yn yr Hydref fe fydd yna waith ychwanegol o baratoi i ailgylchu coed ar gyfer y stôf goed. Bydd yn casglu broc môr i’w losgi neu ei ddefnyddio ar drowr trin coed i ffurfio powleni neu ganwyllbrennau ar gyfer eu gwerthu yn y siop. Diddordeb arall yn y Gaeaf yw astudio’r gofod. Ers mis Ebrill mae wedi gosod Cromen Seryddiaeth tu ôl i’r tŷ.Oddi mewn ceir telisgop anferth gyda chamera yn sownd ar gyfer tynnu lluniau. Mae’r rhan uchaf yn troi iddo gael astudio’r nen oddi amgylch.Mae’n braf astudio’r gofod yma oherwydd nid oes llygredd awyr. Mae’n ffotograffydd, does ryfedd felly ei fod wedi meithrin y dalent i’w fab Ben sydd yn tynnu lluniau gwych.Cefais weld rhai o’r lluniau mae wedi eu tynnu ar y cliniadur. Yn y Gaeaf fe fydd yn rhaid symud y gwartheg i fyny i’r mynydd. Yn ystod y flwyddyn hefyd mae’n brysur yn ffensio. Felly fe welwch ei fod yn ŵr prysur iawn, bob amser yn gyfeillgar ac wedi rhoi o’i amser prin i gael sgwrs gyda mi. Ann Vaughan |
Steve Porter on tractor
Steve Porter and his Astronomical Observatory
|
|
Steve Hinde - October 2009 article in
Llanw Llŷn (pdf file - Welsh language)
|
|
Volunteering on Bardsey Island - Liz James Having retired from teaching I am now free to spend more time on Bardsey Island and to help Steve, Emma and Connor Stansfield, the warden and his family, to prepare the Bardsey Bird and Field Observatory for the year ahead. Everything I’d need for at least three weeks had been packed, wrapped in waterproof bin bags and tied with rope, for over two weeks. At last after several delays, due to unfavourable weather and sea conditions, we were given the go ahead for Sunday March 15th. There were many memorable experiences: Sunday 15th March. Up at 5-30am, left Manchester at 7-15am. Arrived at ‘Cwrt’ Farm, Aberdaron at 12noon. Steve and Emma still loading truck with supplies for several months – looked like moving house! Had nearly an hour to wait for second boat trip. Met kind hospitality of Gareth and Meriel Roberts – delicious free-range eggs for lunch. Joined by Assistant Wardens, Richard Brown and Richard Else [Rich B. and Rich E. for short], returning at same time. Sun shining, beautiful primroses ad celandines in hedgerows along track down to beach. A brilliant start to the venture. Crossed Bardsey Sound in Ernest Evan’s fishing boat with Colin Evans clutching a pet lamb for Rachel Porter at the farm. Landed at Cafyn , warmly greeted by the Porter family and Emyr. Transferred luggage to tractor and trailer for drive up to Cristin. Surprised to find condition of building much better than expected. Obviously left in good condition in November. Porter family putting on the generator at intervals had helped. Glad they’d shifted the seventy-eight mice they’d trapped! South wall very damp, mould on dining room walls and staircase wall a big problem. South Double bedroom wall also very damp. Had to clean pantry and fridge before moving luggage in – took ages. Bleached kitchen work surfaces and ladies toilet. Cleaned oven hobs. Found bed linen and pillows, sorted South Single bedroom out. Went to bed early, jiggered, but very glad to be back. Monday 16th March. Started sorting and washing entire contents of kitchen cupboards – pans, pans and more pans, old pans, new pans, ‘stuck on’ pans and battered loose-handled pans for recycling – big plates, small plates, sorted by pattern, all strategically replaced knowing only too well it won’t last! Had meeting after lunch. Steve listed both accommodation and birding related jobs to do. Many birds expected soon. Mist nets needed. Challenge is to beat the record of ninety different species caught and ringed. Rich B and Rich E set a target of one hundred. Steve promised to eat his hat if they achieve it! [I hope he has an edible one – those are two are very determined!] Tuesday 17th March Pots and pans washing continued, helped by Rich B. and Rich E. – standing at sink with one eye on heligoland trap across garden, disappearing and reappearing with binoculars trained on some far distant bird. Over the radio you’d hear ‘-----blue tit at Ty Pellaf’ or ‘----- smart looking black redstart at ------’. Wednesday 18th March A.M. – Washing up – Steve’s voice over the radio announced, ‘Hoopoe at lighthouse gate.’ Rich B dashed off, getting there in time to photograph it through binoculars. P.M. – Farmer Steve [Porter] radioed - ‘Pods of dolphins off the North End’. This instigated mad rush to climb onto garden wall clutching binoculars. Tried teetering around behind much taller Emma and Steve with one eye on seven foot drop to left but decided that frustrated, ‘binless’ Ben and Rachel Porter would make much better use of my binoculars than I. Their excitement and enthusiasm was infectious. They saw up to forty Bottle-nosed Dolphins and with just a little imagination I could see them, through their eyes too. Thursday 19th March Cleaned first of the two cookers – ugh –‘DIRTY!’ [As in film ‘Black Books’.] Made a vow to keep an eye on them whenever I stay. If everyone wiped them down after use it would help! Friday 20th March Farmer Steve called for help from Obs Steve – ‘Black Welsh cow stuck in mud at the North End.’ Everyone to the rescue. Emma told me of two other occasions when cows had died – they ate them – except the leg that had turned green! This poor cow was well and truly embedded up to its back. Several attempts to pull it out failed. Had to resort to digging. Rich B. worked really hard – looked as though about to suffer same fate at one stage! Everyone tried to do their bit – even six-year-old Connor, using his own initiative, quietly disappeared, fetching two more huge spades from the Obs. Emyr came to do his bit – also tried to join the cow! Two hours later the cow was pulled free. She lay there during the final stages – eyes rolling back, white. Thought she was dying, was quite upset – knew I could not eat her! Emma massaged her hind legs. Must have helped, as with a few ‘Hup-hups’ of encouragement she got up, walked calmly over to a pile of hay and ate as though nothing had happened. Lovely united feeling – everyone on the island had pulled together – all delighted with result. Went back to finish cleaning kitchen. Saturday 21st March Next assignment – ‘The Office’. Kitchen – ok but ‘THE OFFICE’! Always kept out of there – sacred ground – full of scientific birding equipment, gadgets, and data, volume upon volume, file upon file of official documents, reports and records of every bird studied, caught and ringed on the island since 1953. Remembered time when did someone a favour, cleaning their flat in their absence and was blamed for years afterward for losing things! Have to be extra careful now. Rich E., only just returned from birding, appeared outside the window –– drink in one hand, binoculars in the other, gazing seaward. A typical image I’ll always remember. Cleaned and polished without moving anything didn’t have to. Made sure torch still plugged in to charger. Shouldn’t be any problems – looks much better. Had been very interesting job to do, appreciating the work documentation entails and some of the islands history in an old map and a copy of Susan Cowdy’s obituary. Ben Porter called out, ‘Jack Snipe in the ringing shed!’ Never heard of a Jack Snipe before – most beautiful little bird, starling sized, dark stripe on head, highly striped black and tan back and pale underside with a longish beak Walked to Solfach with Connor. He took a short cut higher up than me and called down, ‘If my Granny was down there she’d keep away from that bull!’ Busy watching my feet on a very uneven track I hadn’t noticed a big black bull and two cows blocking the lane in front of me! Made what I thought may be the appropriate sort of noises and got past – phew! [Didn’t really think Farmer Steve would leave a dangerous bull roaming around.] Enjoyed a delicious tea with Steve, Emma and Connor. Emma and I washed up. Steve, still recovering from contracting bronchitis on the mainland sat on the floor to play with Connor and promptly fell asleep! No you didn’t snore Steve. Sunday 22nd March Really enjoyed feeding orphaned or rejected lambs with Rachel and Connor at Ty Pellaf Farm. Cleaned ringing hut with Rich E. Difficult job – it needs rebuilding. Phoned my daughter, Jo. Terribly upset about our aged cat who is very ill. Afraid vet may advise putting him to sleep. This is the one big drawback to being here. Really need to be with her – he’d meant a lot to her especially during difficult times in the past. Feel guilty. Rich B. painted bedroom walls. Can clean them tomorrow. Monday 23rd March Bitterly cold, wild, windy day. Worked hard cleaning South bedrooms all day until 6pm. Tiny Georgian style windows time-consuming – used cotton buds to get into corners. Steve and Rich B. scraped paint off walls in dining room and staircase. Rich E. finished taking old shelves out of library ready for Ian Wright to make and fit new ones. Boot room now full of books. Tuesday 24th March Freezing cold, cloudy, windy weather. Ian and his daughter, Jessica meant to get here today but Ernest decided weather conditions not suitable. This means all work on the North ground floor is delayed - less than two weeks to arrival of first visitors. Steve and Rich B. dismayed – damp South wall they’d scraped and bleached yeaterday has already re-grown four millimetres of fungus! Bleached it again. Fumes prevented eating in dining room. Blower heater on all afternoon and evening in desperation to dry it out. Dirt from wall all over everything, including my nice clean shiny ‘OFFICE’! – aaagh! Current state of affairs: Dining room – too unpleasant and uncomfortable to use, all three ground floor rooms in North wing in chaos and unusable. At least the bathroom is still respectable and warm – even thought of grabbing a chair and sitting in there with a book! Tension building! PM – Had meeting in Steve and Emma’s ‘Barn’. Everyone’s innate sense of humour, the warmth of their stove and cups of tea lifted spirits. Good to be included in meetings like this. Made to feel part of the team and my work appreciated. Jobs to be done reviewed and allocated. Emma and I to work on the gift shop next week. Rooms with beds made up to be ready for visitors by Friday 3rd April. Wind getting even wilder. Retreated to bed early with my electric blanket, glass of wine and a book – WARM at last! Wednesday 25th March Heard Manxies in the night – so glad they’ve started to return before I leave. Cleaned windows in North Double but now stuck until Rich B finishes painting over old damp stains. Moved my things into South Double so Rich B could deal with damp patch and touch up paintwork in South Single. Went up Pen Cristin to phone home, carried on to top of mountain – so beautiful up there! Enjoyed chatting with Emma about global warming and the destruction of the Rain Forests – she’d love to be able to do something about it. South Double bedroom much damper than Single – clothes laid out on spare bed already feel damp. Put them in bed with me to keep them dry for tomorrow. Thursday 26th March Bitterly cold, windy, cloudy again. Very rough seas covering Carreg yr Honwy. Damp everywhere still a huge problem – fungus growing yet again! Steve is really concerned now – only eight days before the visitors arrive. Found dead mouse in trap in pantry – they don’t like the cold either. Cleaned accessible parts of North Double – can’t move huge heavy double bed. PM – Had enjoyable change. Took Connor for a lesson on ‘Directions’. Drew huge map on Solfach beach with sand castles for buildings. Both of us had great fun giving and receiving instructions to follow various routes around it. Phoned home – good news – the cat is much better and my youngest brother is to become a grandfather! Steve had put the blow heater on in my room, aimed at the damp wall – feels much warmer and dryer already. Friday 27th March More cleaning in North Double. Ian and Jessica can’t come until Sunday now. Still treating damp in South rooms. Went with Emma to look at Rachel’s artwork as she‘s taking her for GCES Art. Brought back lots of memories for me in that area. She has been able to capture her interest in seals really well and has lots of good stuff to work on. Saturday 28th March More mould on South wall – now known as ‘Wall of Death’. Work on damp patch in South Single revealed bad case of dry rot – long brown roots exposed, rest of growth explained to me - depressing. Cleaned all day – swept and mopped dining room, kitchen, pantry and office floors. Washed dining room table and benches again. Bitterly cold - ‘Gennie’ couldn’t cope with running central heating and washing machine so heating went off. An evening of drinks, crisps, tasty seeds warmed in olive oil followed by orange matchsticks, served repeatedly, in rotation, by Connor, in the warmth and comfort of Steve and Emma’s ‘Barn’ was very much appreciated. Sunday 29th March Ian and Jessica arrived at last. Met the boat at Cafyn. Nice to see Colin Evan’s boat on the sea again. Proud to show us the new ladder he’d designed, with handrails - disabled friendly, hoping to avoid using dinghies, which some people find difficult. It is brilliant. Joined everyone for cups of tea at Steve and Emma’s. The first mail since we’d come back to the island was delivered – it had come over with Colin as well. It was like Christmas in the ‘Barn’. Jo’s Mother’s Day card finally arrived for me. Silly but it was nice to see my name and the Bardsey Island address on the envelope – always feel I’m home here. Steve had painted the ‘Wall of Death’ with ‘Obliterating Paint’, provided by our landlord, the Bardsey Island Trust. Monday 30th March Lots to do but the Bird Observatory is here for the birds - sometimes need to put them first! Ian left his porridge cooking, disappearing to retrieve both male and female Blackcaps and a Chiffchaff from the heligoland trap. Big ringing and photo shoot event. Emma caught a stonechat on her way to putting on the generator – what a beautiful specimen! Needless to say there was a delay in the power going on. Emma and I cleaned the gift shop. Black and green mould covered display tables and shelves. Bleached them, cleaned units, swept and mopped floor twice. Emma cleaned and re-adjusted the Information display. Rich B. painted the kitchen window frame. Steve put a second coat of ‘Obliterating Paint’ on the ‘Wall of Death’. Rich E. painted the dining room door, fireplace and later applied a third coat of ‘Obliterating Paint’ to the ‘Wall of Death’ – but it’s still coming through in places. Ian and Steve now working flat out in the library. Current state of affairs: Library – a carpenters’ workshop, South Double still damp, South Single still being painted by Rich B., wet paint on kitchen window frame – washing up piling up, dining room a no-go area – more wet paint, inaccessible common room looks as though a bomb has hit it and boot room still full of books. Only four days left! Went to bed early – thank goodness for that electric blanket and my book! Tuesday 31st March Gift shop still damp after cleaning. Cleaned bathroom window. Cleaned mould off gift shop display baskets – set out in sunny courtyard yard to dry. Wood and other materials for Connor’s new bedroom arrived by boat with Bevan Healey. Steve drove tractor and trailer, backing it skilfully into courtyard entrance. Everyone, including Connor, helped unload it. Ian and Steve still working on library. Steve gave up removing wood shavings from his hair and removed his hair instead. Thinks he looks like Harry Hill now –his idea, not mine – can’t stand Harry Hill. Never mind, it’ll grow. Wednesday 1st April Still dark fungus coming through ‘Wall of Death’. Cleaned South Single window. Helped Emma sort things for sale. Steve panicking about finishing by Friday – I can see why! Hens clucking madly – Steve put a freshly laid egg into my hand, still warm – I’d had lunch but I had to have another! Vacuumed South Single. Sorted BBFO clothing for sale – confusing number of different styles all in choices - Welsh/English, black/blue and several sizes. Ian and Steve, concealing shorn head with woolly hat, finished fitting shelves. Needed help cleaning up the mess. Left Emma to finish gift shop, went to tackle library. Jess finished ironing sheets and making up beds. Rich B. finished painting various bits that needed it and the loos. Rich E. painted black metal fence by courtyard. Both assistants found time to catch another Jack Snipe. Thursday 2nd April Up early to get on with cleaning library – washed fireplace, started on window. Stopped for coffee – the men used my polished windowsill for their cups! Took excuse to take mine outside. Broke to visit gift shop. Emma had finished the display, working until 10-30 last night. Looks really good. Couldn’t resist temptation – bought a ‘Hoodie’ – me with a Hoodie’! Should prevent ‘Assistant Warden’s Ears I’d developed in the first week – chilblains – ear lobes still red, sore and swollen. Started on common room. Furniture now outside being beaten. Sun shining so sat outside in comfy chars – first time possible! Relaxed, enjoyed talking with Emma about King Arthur legends – could Bardsey have been Avalon? Old Welsh name sounds like it. Watched Ian pruning the Euonymous tree. Was against it but it does look better and safer for building. Cleaned common room window. Cleaned kitchen yet again. Rich B. and Rich E. caught fourth Jack Snipe – really pleased with themselves. Bitterly cold again out of the sun – ooooh that electric blanket! Friday 3rd April Awoke to foghorn, cold misty, grey day – didn’t help with great sadness I feel on this last day here. Very busy, mad rush all around to finish. Seem to be repeating so much. All worked together to return books to library and sort out new rug to replace one we’d cleaned – Solfach Beach kept drifting out of it. Common room looked horrendous this morning but Steve sorted it - looks really good now. Jess lengthened curtains for boot room. Ian hung them on new track. Amazing what a difference that little touch makes. Walked to North End to phone Jo. Bitterly cold. It’s warm in Manchester. Perhaps it’s as well I’m going home – I am very tired and some bits of me are beginning to complain – but I’ll miss this mystical place, that continues have a hold on me and its people so very much. ************** It had been hard work but both interesting and rewarding. I now have a much better appreciation of all the hard work that must be completed every year by Steve and Emma. They were lucky this year to have two assistant wardens. It must be a daunting task to tackle this year after year, so many jobs like the 'Wall of Death' having to be repeated. I’d really enjoyed working as a team with like-minded people who appreciated what I did. There’d also been lots of fun and laughter, the opportunity to visit all my favourite parts of the island and I’d continued to learn more about birds. I can’t wait to get back there in May. |
|
Ymunais â Gwasanaeth Gwirfoddol Dramor (VSO) yn 1971 a threulio 2 flynedd fel rheolwr ar Gynllun Peilot Dyfrhau Tir yn Zambia ble ddatblygais ddiddordeb mewn planhigion trofanol a choed. Treuliais y rhan fwyaf o 25 mlynedd cyn dod i Ynys Enlli yn gweithio ar wahanol gynlluniau tirlun yn Saudi Arabia. Roedd y rhain yn cynnwys dinas ddiwydiannol newydd yn yr anialwch, ac yna ar ysbyty milwrol. Am y 15eg mlynedd olaf gweithiais i’r Awdurdod Awyrlu Gwladol Saudi mewn gofal o gynllunio a chynnal y tirlun a’r cynlluniau dyfrhau oedd a’u pencadlys yn Jeddah.Yn ogystal a’r 25 maes awyr cartref(domestic) ym mhob cwr o’r wlad. Roeddwn yn arfer hedfan ac archwilio y gwahanol feysydd awyr yn wythnosol. Y tro cyntaf i mi ymweld ac Ynys Enlli oedd ar ddiwrnod sych,tawel ac oer ym mis Ionawr 2005 i gael golwg ar yr ynys cyn derbyn y swydd o fod yn warden gydag Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Er fy mod wedi derbyn y swydd yn syth cymerodd tan fis Ebrill i mi fedru cyrraedd yr Ynys wedyn a dechrau gweithio oherwydd y tywydd garw! Mae fy amser ar yr ynys yn cael ei rannu’n ddwy ran dymhorol amlwg. Yn ystod tymor y gaeaf (Tachwedd i Ebrill) Rwyf yn cario ymlaen i drwsio, cynnal ac atgyweirio y saith tŷ sydd yn cael eu gosod gan yr Ymddiriedolaeth fel tai gwyliau, y Capel, Ysgol a’r Abaty ac yn gwneud yn siwr fod y tai i gyd wedi eu paratoi ac yn barod ar gyfer yr ymwelwyr. Mae’r tymor gwyliau yn cael ei ymestyn o tua ganol Mai yn hwyr i’r Hydref. Fel arfer mae’r Sadyrnau yn brysur dros ben. Dyma’r diwrnod pan fo’r ymwelwyr yn cyrraedd a gadael. Rhaid gofalu fod y bobl iawn (a’u bagiau dillad bwyd a.y.y.b.)yn mynd ar y cwch iawn ar yr amser iawn.Yn ogystal rhaid llnau’r tai ac ail lenwi’r nwyddau e.e nwy, cyn i’r ymwelwyr nesaf gyrraedd.Y rhan fwyaf o’r amser rydym yn ei gael yn iawn ond ambell waith mae pethau yn mynd o chwith! Mae gweddill fy amser yn ystod y tymor yn cael ei dreulio yn atgyweirio,cynnal a chadw mân bethau, gan ofalu am y gerddi a’r tir oddi amgylch y tai a’r adeiladau, hefyd gofalu fod yr ymwelwyr i gyd yn gyffyrddus ac wedi setlo i mewn. Does dim dau ddiwrnod byth yr un fath. Roedd y tai (a’r adeiladau fferm) i gyd wedi cael eu adeiladu gan Iarll Newborough ( neu o leiaf ei weithwyr) yn y 1870au. Mae’r tai i gyd erbyn hyn wedi cael eu cofrestru fel adeiladau gradd 2 ac ychydig o iawn sydd wedi cael ei wneud i’w newid. Mae gan bob un doiled compost, dŵr ffynnon ar dap, stôf nwy ac oergell ond nid oes gan yr un ohonynt drydan na theledu. Mae llawer iawn o’r ymwelwyr yn dod yn rheolaidd blwyddyn ar ôl blwyddyn i fwyhau y tawelwch ac yn bell o sŵn ceir a bywyd prysur bob dydd. Mae’n braf cael mynd yn ôl mewn amser i fywyd syml fel roedd yn y gorffennol. Fel arfer ryw hanner hanner o Gymru a Saeson sydd yn dod i aros. Rydym yn cael cefnogaeth dda iawn gan bobl Sir Fôn ond ychydig iawn o drigilion Pen Llŷn rydym yn ei weld er fod llawer ohonynt gyda chysylltiadau teuluol â’r Ynys.Buasem yn hoffi clywed gennych ac fe fydd croeso yn eich aros yma. Emyr Roberts Mae Emyr hefyd yn artist yn tynnu lluniau bendigedig o flodau ac mae yn gwerthu ei gardiau draw ar yr ynys.Maent yn werth eu gweld ac os cewch gyfle ewch i weld ei ardd yn llawn llysiau a blodau. |
The piece is written by Emyr Roberts , Bardsey Island Trust Warden and describes his background before he came to the island and his work for the trust. He was born in a samll village near Cerrigydruidion in North Wales. He trained on a nursery on the Wirral. He went out to Zambia working on an irrigation project for VSO. Then he spent 25 years out in Saudi Arabia working on grounds and landscaping around a military hospital and a regional airport. He first visited Ynys Enlli in January 2005 before starting work the following month. He describes his work preparing and maintaining the houses , and maintaining the chapel, the schoolroom and the abbey. He talks about his love for the peace and tranquility of the island and of the visitors may of whom return year on year to the beauty of the island.
A postscript adds information about his love of both vegetable and flower gardening and his skills as an artist drawing flowers
|
|
Richard Brown ydy is-warden Gwylfa Maes ac Adar Ynys Enlli. Fe 'i magwyd yng Ngogledd Swydd Efrog ac yn fachgen ifanc iawn byddai'n mynd allan efo'i dad i wylio adar; ymunodd hefyd â'r YOC sef clwb plant yr RSPB. Yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Norwich am dair blynedd a Phrifysgol Vancouver am flwyddyn. Fe gafodd gyfle i astudio adar môr ym Mauritius am saith mis hefyd cyn symud i Sgomer am ddwy flynedd a hanner. Yn ystod ei ail flwyddyn yn y brifysgol roedd Richard yn byw yn nhŷ Chris Mead, yr adarwr enwog, a dyma'r adeg y dechreuodd fodrwy adar o dan ei arolygaeth. Yr aderyn cyntaf iddo ei fodrwyo oedd y gnocell fraith leiaf ar safle'r MOD a oedd yn warchodfa natur. Byddai'n mynd i Cape Wrath i wylio adar môr ac yn gwirfoddoli yn y warchodfa. Ym Mauritius gwelodd golomenod pinc, adar trofannol cynffon hir a chudyll Mawrisiaidd. Yma ceisiodd ddysgu'r plant ynglyn â chadwraeth. Daeth pobl o Kew yno a dweud nad oedd yr un goeden goffi ar ôl ar yr ynys oherwydd eu bod wedi cael eu dinistrio, ond dyma un o'r plant yn dweud: "Mi wn i ble mae 'na goeden goffi; dwi'n ei gweld hi bob dydd ar y ffordd i'r ysgol." felly achubwyd y goeden goffi olaf diolch i'r plentyn sylwgar hwnnw. Yn 2005, yn ystod ei gyfnod ar Ynys Sgomer, y dechreuodd Richard gymeryd diddordeb mewn gwyfynod. Roedd gwaith ar wyfynod yn cael ei wneud yno, a dysgodd yntau eu henwau fesul un trwy ddefnyddio'r Field Guide to the Moths of Great Britian and Northen Ireland. Ers iddo ddod i Enlli rhan bwysig o' i waith am 10 o'r gloch y bore ydy cyfri gwyfynod a'r gwahanol rywogaethau. Pan oeddwn yn aros ar Enlli ym mis Gorffennaf, fe' i gwelais yn gwneud hyn. Er mwyn dal y gwyfynod roedd yn gosod bocs yn yr ardd wedi ei lenwi efo bocsys wyau, a chaead ar ei ben efo twll yn ei dop fel twmffat. Bob nos byddai 'n rhaid rhoi golau ynddo wedi ei gysylltu efo batri a choke, roedd hwn yn gofalu nad oedd y bwlb yn mynd yn rhy boeth ac yn llosgi. Soniodd Richard fod y lleuad yn gwneud gwahaniaeth, oherwydd os ydy hi'n olau, bydd llai o wyfynod o gwmpas. Roedd gan Ben Porter, mab y fferm ar Enlli focs tebyg ym Mhlanhigfa'r Nant yng ngogledd yr ynys. Roedd Richard wedi ei annog yntau i ddysgu am wyfynod a byddai'n galw heibio yn y bore i ddweud beth oedd wedi ei weld. Yn ystod un bore pan oeddwn yn aros yno ym mis Gorffennaf, cafodd dros 200 o wyfynod o 28 o rywogaethau gwahanol eu dal. Hyd at hynny, teigr yr ardd oedd y gwyfyn mwyaf cyffredin ar yr ynys, a'r un newydd eleni oedd y brith bach gwelw. Fel y dywedais, Richard ydy'r is-warden ac mae ei ddyletswyddau yn cynnwys gwylio adar a' u modrwyo a rhoi'r wybodaeth ar gyfrifiadur. Am 8.30 yr hwyr fe ddaw pawb at ei gilydd i ddweud pa adar, glöynnod byw a morloi y mae nhw wedi eu gweld yn ystod y dydd a faint o bob un. Os bydd y tywydd yn ffafriol yna aiff pawb allan tua 11.30 yn y nos i weld a modrwyo'r pedryn ac aderyn drycin Manaw. Mae'r wybodaeth yn cael ei gofnodi yn yr adroddiad blynyddol. Mae Richard hefyd yn paentio, torri gwellt ac yn gwneud tasgau cyffredinol eraill. Edrychwch ar safle we'r Wylfa am ragor o wybodaeth: www.bbfo.org.uk Ann Vaughan |
Emyr is second from left
leaning on the wall, legs crossed talking to Ruth Edwards.
|
|
|
|
|
Ym mis Mai 2007 y dois i Ynys Enlli gyntaf, pan oeddwn yn gweithio fel gwirfoddolwr am fis yn y Wylfa Adar.Fy mhrif reswm am fynd i'r ynys oedd cael mwy o brofiad o waith yr Wylfa, oherwydd roeddwn a diddordeb mewn cael gyrfa yn astudio natur. Mae adar a bywyd gwyllt wedi bod yn wir angerdd i mi ers pan y gwnes ddarganfod llyfrau hanes byd natur am y tro cyntaf pan oeddwn tua 5 oed, ond ddim tan oeddwn yn 19 oed y gwnes benderfynu troi fy niddordeb yn yrfa. Tan yr adeg yma roeddwn yn byw yn Bolton ac yn meddwl am ddechrau gyrfa fel cynllunydd.Yn ffodus gwelais hysbyseb mewn adroddiad adaryddol am gyfle i weithio fel gwirfoddolwr ar Wylfa Adar Fair Isle yn yr Alban, felly penderfynais fynd yno yn haf 2006. Yr oedd yn brofiad gwerth chweil gweithio mewn safleoedd mawr adar môr, ac fe wnaeth hyn greu diddordeb a meddwl o ddifri am astudio adar fel bywoliaeth. Roeddwn wedi ceisio gweithio mewn Wylfa gwahanol ac roedd lleoliad Ynys Enlli yn apelio ataf ac fe es yno yn y gwanwyn canlynol. Mi wnes fwynhau y mis yna ar yr ynys yn fawr iawn fel y dychwelais yn yr Hydref i helpu. Yn 2008 roedd yr Wylfa angen aelod arall o staff i astudio Adar Drycin Manaw, felly neidiais ar y cyfle i gael dod yn ôl am dymor llawn. Treuliais o fis Mawrth tan Dachwedd ar yr ynys, yn gweithio ar brosiect Adar Drycin Manaw a helpu allan yn gyffredinol efo rhedeg yr Wylfa, ac mi fyddaf yn ôl eto yn gwneud yr un peth yn 2009. Mae yna 8 mlynedd wedi mynd heibio ers pan gyfrifwyd yr adar oedd yn magu, felly fy ngwaith i ydy cyfri yr adar a gwneud yr ymchwil eto i ddarganfod os yw'r parau nythu wedi newid yn yr amser yma yn ogystal ac astudio lefel llwyddiant y magu yn yr adar yma.Mae'r adar yma yn gwneud y gwaith yn annodd ac yn anhylaw. Nid ydynt yn dod i'r lan ond yn y nos ac yn dodwy eu hwyau ym mhen draw tyllau dyfn. Y ffordd orau i'w cyfri ydy ymweld â phob twll ar yr ynys (tua 16,000 i gyd) ar ôl i'r adar ddodwy yr wyau a chwarae tâp o'u sŵn i lawr bob twll.Os oes aderyn magu yn y twll yn eistedd ar yr ŵy, yna fe wnaiff alw'n ôl. Y mae'r dasg yma yn cymeryd amser ac yn cael ei ail adrodd, ond does unlle gwell na brafiach i wneud y gwaith nac ar Ynys Enlli. Rhan o fy ngwaith hefyd yw modrwyo cywion mân blu ADM gyda modrwy metel cyn iddynt hedfan,felly rydym yn medru cadw conodion manwl arnynt drwy eu hoes. Oherwydd y gwaith modrwyo rydym yn gwybod eu bod yn mudo i dde America, a dod yn ôl i Enlli bob gwanwyn ar ôl blynyddoedd maith. Darganfyddwyd fod un aderyn dros 50 oedd yn ddiweddar.Sôn am drafeilio! Mae'r rhyddid i fynd allan bob diwrnod a cherdded o amgylch yr ynys yn chwilio am fywyd gwyllt diddorol yn fendigedig, ac yn hollol wahanol i'r ardal o Fanceinion lle y cefais fy magu a'm dwyn i fyny.Rwyf wedi mwynhau byw ar yr ynys hyd yn hyn ac rwy'n siwr y bydd y flwyddyn nesaf cystal ag erioed. Richard Else. |
It is eight years since the breeding population of Shearwaters on Enlli was counted, so It is my job to carry out the survey again to see if the number of pairs has changed in that time, as well as studying the level of breeding success amongst the birds. The habits of the ‘Manxies’ make surveying them accurately extremely awkward: they only come to land at night and lay their eggs at the bottom of deep burrows. The best way of counting them is to visit every burrow on the island (all 16000 or so of them) after the birds have laid their eggs, and play a tape recording of the birds’ raucous calls down each one. If an adult bird is in the burrow incubating its egg, it will call back. It is a repetitive and time consuming task, but there can be no nicer setting in which to be doing it than Bardsey. It is also part of my job to fit the fluffy Shearwater chicks with numbered metal rings before they fledge, so that we can keep track of them throughout their lives. It is through ringing these birds that we now know about their annual migrations to South America, and their return to Bardsey in each spring of their, often very long, lives. The freedom to go out every day and walk around the beautiful island looking at the varied and fascinating wildlife is wonderful, and completely different from where I grew up in over-populated Greater Manchester. I have really enjoyed living on the island so far, and I’m sure next year will be just as good.
|
|
Dyma ddisgrifiad o Ynys Enlli ar gyfer traethawd gan Rachel Porter, Tŷ Pellaf, Ynys Enlli. Mae yna ychydig o lefydd yng Nghymru sy’n cynnwys harddwch prin ac anghyffredin ar ynys mor fach ac arbennig fel yr ynys sy’n gorwedd ar drwyn Pen Llŷn sef Ynys Enlli. Ar fore o Wanwyn ar Enlli mae’r haul yn llygadu’r ynys ac yn gyrru pelydrau hir, cynnes dros y môr ac fel petai yn wincio ac yn gwenu arno. Mae’r tonnau’n llepian yn ysgafn dros y gro mân ar y traeth, yn hymian tiwn isel melys fel mêl. Mae’r morloi yn gorweddian yn yr heulwen, yn canu eu cwynfan siriol. Hedfan yn isel dros y tywod wna’r brain goesgoch, gan sgrechian yn gras ac yn cwyno ymysg ei gilydd, Mae’r aer yn llonydd a phopeth yn dawel fel petai yr ynys yn ochneidio’n fodlon braf. Yna’r diwrnod canlynol cymylau duon taranllyd dros yr ynys gan guddio’r haul a gyrru cysgodion duon tywyll dros y lle. Mae’r môr yn cymeryd tymer yr awyr, nid yw’r tonnau bellach yn lepian ond maent fel mynyddoedd mawr o ddŵr yn taro ar y creigiau. Gwelir y morloi yn reidio ar ellyll taranllyd y tonnau cyn rhuo ar y traethau. Mae’r gwylanod yn ceisio eu gorau glas i hedfan yn erbyn y gwynt sy’n curo ar draws yr ynys gyda eu holl egni..... mor sydyn y gwelir y tywydd yn newid yma.
|
Rachel Porter
|