|
Bardsey News in Welsh - by kind permission of Llanw llŷn and Ann Owen Vaughan |
Carol Shearman (Artist)
Ben Porter (Island
Photographer)
Gareth Roberts (of Cwrt
Farm)
Dale Brown & Mike Archer (Bird
Statiticians)
Steve Porter (Farmer)
Steve Hinde
Liz James' Diary
Emyr Roberts (Trust Island
Manager) Richard Brown (Obs.
Assist. Warden)
Steve, Emma & Connor
Stansfield (Obs. Warden and family)
Richard Else (Shearwater
Researcher)
Rachel Porter
Jo Porter (Botanist)
Elaine & Jim Lennon (Obs. Winter
Caretakers 2009/10) John
Griffith
|
John Griffith,
Bardsey Trust Officer
Ei waith fel gweinyddwr yw rhentu tai'r Ymddiriedolaeth i ymwelwyr yn wythnosol dros yr haf. Ceir tai ar gyfer 2, 6 neu 8 o bobl i aros ynddynt. Ef sydd yn gofalu am brynu pethau ar gyfer y tai fel bo'r angen a derbyn yr arian a thalu biliau a pharatoi cyfrifon i'r trysorydd a'r cyfrifydd. Edrychwch ar safle we'r Ymddiriedolaeth am fwy o fanylion neu ffonio 08458112233 neu e bostio post@enlli.org Mae'n cadw cofnodion yn y pwyllgorau a gadael i bawb wybod pa bryd fydd y pwyllgor nesaf. Mae'n paratoi gwybodaeth i'r cyhoedd ac ambell waith yn rhoi datganiad ar y radio. Bob tro mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Gogledd mae gan yr Ymddiriedolaeth stondin yno gyda thaflenni gwybodaeth a nwyddau ar werth. Gwaith pwysig arall yw chwilio am grantiau a llenwi ffurflenni. Prosiect diweddar yw cael grantiau ar gyfer cael giatiau haearn newydd wedi eu galfaneiddio. O fewn tair blynedd fe fydd 32 giât newydd wedi cael eu gosod ar yr Ynys a'r rheiny wedi eu gwneud yn lleol gan Dewi Jones o Abererch. Mae'r rhain ar yr un patrwm a'r hen rai. Cafwyd hanner yr arian o grant gan yr AHNE. Er mwyn cadw efo ynni gwyrdd mae'n edrych i mewn i'r posibilrwydd o gael paneli solar ar gyfer y dyfodol. Cyn y swydd yma bu John yn gweithio yn Ffatri Laeth Rhydygwystl am 26 mlynedd ac yna yng Nghlwb Hwylio Pwllheli am 9 mlynedd. Mae wedi bod yn lwcus cael gweithio o fewn ei filltir sgwâr a'r pellaf iddo drafeilio oedd pedair milltir a hanner i'w waith! Yn ogystal â'r uchod mae wedi rhedeg Marathon Llundain ddwywaith a dal swyddi trysorydd a chadeirydd yn Clwb Rygbi Pwllheli.Tua 13 mlynedd yn ôl rhoddodd fêr esgyrn. Nid oedd yn gwybod ar y pryd mai merch o'r Almaen a dderbyniodd y mêr. Erbyn heddiw maent wedi dod yn ffrindiau da iawn a'r teuluoedd wedi bod drosodd yma yng Nghymru a John wedi treulio sawl gwyliau yn yr Almaen. Peth arall mae wedi ei wneud yw rhoi 75 peint o waed i'r banc gwaed. Felly rwyf eisiau diolch yn fawr iddo am roi o'i amser i gael sgwrs efo fi a rhannu ychydig o'i hanes efo chi |
|
|||||
|
Elaine & Jim
Lennon - A Winter on Bardsey (at Cristin) - Part 1 Ers yr 80au mae Jim ac Elaine Lennon wedi ymweld ac Ynys Enlli ac aros am wythnos ar y tro. Ers amser hir rwan roeddynt eisiau cael cyfle i aros dros y gaeaf a chael profiad o sut fyddai'r lle ar wahanol adegau o'r flwyddyn pan oedd llai o bobl a chychod o gwmpas, yn hytrach na dim ond aros am wythnos. Erbyn hyn ar ôl rhoi'r gorau i'w gwaith ac ymddeoliad cynnar maent yn lwcus iawn i fedru gwneud hyn. Er mwyn i'w teulu aú ffrindiau wybod eu hanes maent wedi creu blog ae safle we'r Wylfa maes ac Adar sef bbfo er mwyn i bawb gael gwybod eu hynt aú helynt. Maent yn aros yng Nghristin ac yn gwneud gwaith gwirfoddol ar dasgau cadwriaethol yr ynys yn ogystal a swyddi gaeaf yn yr Wylfa fel cofnodi newyddion am yr adar maent yn ei weld aú modrwyo ac edrych ar ôl y tŷ. Ar 17eg o Hydref cawsant ddiwrnod hir yn siopa munud diwethaf a sortio a phacio'r Land Drover a threlar. Yna cychwyn yn yr oriau mân i gyrraedd Porth Meudwy erbyn amser cinio a throsglwyddo'r cwbl ar y Benlli 3. Roedd y Swnt yn llonydd a'r tawelaf iddynt ei weld erioed ac roedd yn braf gweld y morloi y codi eu pennau o'r dŵr. Ar ôl glanio roedd yn rhaid trosglwyddo popeth ar y tractor a threlar i fynd i Llofft Plas sef eu cartref newydd am ychydig o wythnosau. Roedd ganddynt 40 o focsys wedi eu labelu aú rhifo a 10 barel o fwyd a nwyddau, cyfrifiadur, offer modrwyo a.y.b O Llofft Plas ceir golygfa fendigedid i ran ddeheuol yr Ynys. Ar y 23ain o Hydref roedd wedi bod yn ddigon braf a thawel o'r diwedd i agor y rhwydi adar a modrwyo yng ngwiail Nant sydd ar yr ochr Ogleddol yr ynys.Tua 20 o adar ddaliwyd yn cynnwys Dryw, Llwyd o'r Gwrych a Bronfreithiaid mudol. Y prif aderyn oedd y dryw Penfflamgoch. Ers pan mae Jim ac Elaine wedi cyrraedd yr ynys maent wedi bod yn brysur yn dadbacio pethau hanfodol a setlo i lawr yn eu carterf clud, heb ddim trydan ond golau a thân nwy. Mae'r tywydd wedi newid ers pan maent yno a'r gwynt yn chwythu yn gryf o'r de a'r Gorllewin. Roedd Jim wedi bod yn trafod efo staff yr Wylfa am y gwaith oedd i'w wneud yn ystod y gaeaf ac Elaine ar y llaw arall wedi bod yn brysur piclo nionod a gwneud jeli mwyar duon gyda mwyar yr ynys. Yn ystod y nos y 27ain o Hydref roedd llawer o adar mudol wedi cael eu dallu aú dal yng ngolau y goleudy. Digwydd hyn o pan fo lleuad newydd yn y Gwanwyn a'r Hydref pan fo adar yn mudo. Os yw hi'n bwrw glaw a'r cymylau yn isel yna mae'r adar yn drysu yn lân efo'r golau gan feddwl mai golau'r lleuad yw, ac yn mynd oddi amgylch y tŵr ac yn taro i'r gwydr neu'r adeilad. Yn y gorffennol mae cannoedd lawer o adar wedi cael eu lladd. Diolch i staff y Wylfa cafwyd cynllun i rwystro hyn i ddigwydd. Os oeddynt yn gweld yr adar yn hedfan oddi amgylch y golau, roeddynt yn mynd i lawr at y goleudy sydd ar yr ochr Ddeheuol yr ynys. Er mwyn leihau nifer y colledion roeddynt yn gosod goleuadau ar bolyn tu allan i waliau'r goleudy fel bo'r adar yn cael eu denu ato a glanio'n ddiogel ar y llawr. Yna mae'r adar yma yn cael eu pigo i fyny aú cadw tan y bore ac yna'n cael eu modrwyo. Bu Jim allan tan 4 o'r gloch yn gofalu am yr adar cyn codi eto am 7.30 y.b i'w rhyddhau. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r modrwywyr weld adar aú modrwyo na fuasent fel arfer ond yn eu gweld yn hedfan. daliwyd Cyffylog, 30 Mwyalchen a Choch Dan Adain a 3 Telor Penddu. Tachwedd 1af symud eto i Cristin am y gaeaf ar ôl i'r ymwelwyr olaf adael.Roedd yn ddiwrnod gwlyb iawn yn y bore ond daeth tywydd braf yn y pnawn, felly dyma ddadlwytho eto ac ail setlo. Gwelwyd fod y silffoedd yn llawn ond a fuasai yn para am 8 mis? Tachwedd 8ed roedd yn braf gweld gweddill yr ynyswyr yn mwynhau cael cyfle i fod yn greadigol yn cerfio siapiau ar y pwmpen.Roedd rhywun wedi bod yn greadigol iawn yn cerfio siap cimwch bendigedig ar un, ac roedd yn braf cael cawl pwmpen, bara ffres a menyn cartref o'r fferm. Oherwydd ei bod yn agos at noson tân gwyllt bu pawb yn brysur yn hel gweddillion yr hen guddfan, pyst ffensio a.y.b a chynnau tân ar draeth Solfach. Roedd yr awyr yn glir ond oer ac roedd yna olygfa wych o'r blaned Iau. Cawsant noson braf o flaen y tân yn bwyta sosej.Erbyn y bore ychydig oedd ar ôl ac fe fu Jim a Steve yn brysur yn clirio y darnau metal a gwydr i wneud y traeth yn saff eto. Cuddfan Solfach. Un o'r tasgau cyntaf i Jim ei wneud oedd ail wneud y guddfan. Dechreuodd ychydig o wythnosau yn ôl pan oedd y tywydd yn caniatau.Roedd wedi bod yn paratoi ers mis Awst drwy fesur beth oedd ei angen a dod â'r defnyddiau drosodd efo nhw yn yr Hydref. Mae'r guddfan yma yn bwysig i'r rhai sy'n gwylio adar ar y traeth yn Solfach,felly roedd yn rhaid tynnu'r hen goed a'r to cyn mesur a thorri'r rhai newydd ar y traeth, drwy ddefnyddio generadur i'w torri.Ceir ffenestri pren sy'n agor a chau a drws i'r guddfan. Yn ogystal oddi mewn ceir mainc i eistedd sydd yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer gwylio adar am amser hir neu tynnu eu lluniau. Ar ôl hyn roedd yn rhaid ei baentio i gadw'r glaw allan. Ychydig o gyfle sydd yna yr adeg yma o'r flwyddyn oherwydd y gwyntoedd i agor y rhwydi i ddal yr adar.Buont yn lwcus i fedru eu hagor yng ngardd Cristin a modrwyo 40 o adar gyda thriad y wawr, roedd y rhain yn cynnwys bonfreithod, pincod a'r 4ydd Tingoch Du yr Hydref yma a Phengam oedd yn ymfudo'n hwyr iawn yn y flwyddyn. Tydy hi ddim yn fêl i gyd chwaith yn enwedig pan eich bod yn clywed sŵn traed bach yn dod o'r cwpwrdd a licoris yn esgid Jim! Fel roedd y dyddiau yn oeri ac yn byrhau roedd llygod (Woodmice) wedi dod i mewn i'r tŷ. Erbyn diwedd y mis ar ôl 3 wythnos o wyntoedd cryfion o'r De ar Gorllewin, roedd yn braf o'r diwedd gweld Colin yn cyrraedd am 9 y.b. ond yn drist hefyd fod staff y Wylfa yn gadael a threulio'r Nadolig gydaú teuluoedd aú ffrindiau. Wedi dod drosodd hefyd roedd criw ffilmio gyda llawer o offer a doeddynt ond yn aros am 3 awr! Yn ogystal â'r criw daeth y ffariar oherwydd fod y ffermwyr yn poeni am un o'r gwartheg oedd yn barod i eni llo. Penderfynwyd rhoi siserian iddi oherwydd fod y llo yn groes.Roedd yn dda iawn felly cael toriad yn y tywydd ac yn ollyngdod i bawb. Gyda llaw Poppy yw enw'r llo! Roedd pawb yn falch hefyd o dderbyn y post a gallech feddwl ei bod fel diwrnod Nadolig am ychydig yn rhannu cynnwys y sach i weddill trigolion yr ynys.Cafodd Jim sbenglas newydd iddo gael yr adar yn well ac Elain edafedd gwau a sosej chorizo a siocled – bendigedig! Treuliwyd gweddill y diwrnod yn ymweld â'r fuwch a'r llo a dadbacio y siopa oeddynt wedi ei archebu o siop Spar, Aberdaron. Oherwydd fod llawer o amser rhwng pan mae'r cwch yn dod drosodd efo newyddau maent fel arfer yn archebu digon o ffrwythau, llysiau a chig ac yna fel wiwerod yn ei gadw mewn rhewgelloedd a chypyrddau i'w gadw'n ffres hyd nes daw y cwch drosodd eto. This is the first half up to November |
|
|||||
|
Jo Porter - Ty Pellaf Ym 1984 gwirfoddolodd Jo Porter oedd yn 14oed i weithio yn y Wylfa Adar yng Nghristin. Erbyn hyn mae hi a' i theulu wedi bod yn byw ar yr Ynys ers 2 flynedd i Hydref ddiwethaf yn Tŷ Pellaf. Mae'n wraig brysur iawn yn rhoi gwersi ysgol i'w phlant Rachel a Ben. Yn y pnawniau fel arfer mae'n gwneud gwaith i Gyngor Cefn Gwlad gan ei bod yn ecolegydd. Rhan o'r gwaith i'r RSPB yw monitro a gwaith rheolaeth drwy edrych ar dir pori. Mae hyn yn golygu edrych ar lysdyfiant ac archwilio yr Ynys i gyd. Mae ganddi ardd lysiau ac mae'n anelu i fod yn hunan gynhaliol. Bob diwrnod mae'n cerdded i fyny'r mynydd ac felly'n cadw'n ffit iawn ond ar yr un pryd mae'n cael ymlacio. O fis Mawrth ymlaen mae'n mynd i nofio yn ddyddiol er fod y dŵr mor oer oddi amgylch. Dewr iawn fuaswn i'n ei ddweud. Pan oeddynt yn byw yng Nghonwy roedd yno goedwig, tir i'w drin a chae ar gyfer bywyd gwyllt, felly roedd yn braf cael gweithio gyda'r tir. Gwaith pwysig arall yn ei bywyd oedd gwneud gwaith cymodi drwy Gymru a gweithio gydag eglwysi lleol ym Mae Colwyn. Bob bore Mercher roedd yn cymeryd rhan yng ngwasanaethau y babanod yn ysgol Porth y Felin, Conwy. Arwahan i hynny mae wedi bod yn helpu gyda'r "Crusaders" yng Nghonwy yn gwneud gwhanol weithgareddau efo nhw. Fel arfer mae hi'n brysur iawn yn yr haf pan fo tymor yr ymwelwyr ar ei anterth yn enwedig rhwng 11.00 y.b ac 1.00 y.p yn gwneud paneidiau tê i'r ymwelwyr dyddiol ar ôl iddynt gyrraedd (os yw'r tywydd yn caniatau!) Mae Rachel yn ei helpu gyda'r gwaith yma. Yn ystod nosweithiau'r gaeaf mae'n cadw'n brysur yn gwneud basgedi ac eitemau wedi eu ffeltio ar gyfer eu gwerthu yn y siop yn ystod tymor yr ymwelwyr. Mae'r holl eitemau cartref sydd yno yn werth eu gweld. Mae siopa yn dasg ynddo' i hun, fel arfer prynu digon o nwyddau dair gwaith y flwyddyn. Mae'n lwcus iawn fod y cyfanwerthwyr yn danfon y nwyddau i Cwrt. Diolch i Gareth a Meriel Roberts. Rhaid diolch hefyd i Ernest Evans am ddod â'r post drosodd. Mae pawb yn edrych ymlaen i agor y llythyrau a chael y newyddion diweddaraf. Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Ann Vaughan |
|
Carol Shearman (Artist)
Ben Porter (Island
Photographer)
Gareth Roberts (of Cwrt
Farm)
Dale Brown & Mike Archer (Bird
Statiticians)
Steve Porter (Farmer)
Steve Hinde
Liz James' Diary
Emyr Roberts (Trust Island
Manager) Richard Brown (Obs.
Assist. Warden)
Steve, Emma & Connor
Stansfield (Obs. Warden and family)
Richard Else (Shearwater
Researcher)
Rachel Porter
Jo Porter (Botanist)
Elaine & Jim Lennon (Obs. Winter
Caretakers 2009/10)